Wednesday, 25 July 2007

Wythnos yng Nghymru Fydd

Rwy wrthi'n darllen llyfr Islwyn Ffowc Elis ar y foment, ac y mae yna amryw beth rhyfedd tu hwnt ynddi. Ar ddiwedd bennod 7, mae'r cymeriadau yn gweld band milwrol yng nghanol Caerdydd:
'Wel', meddai, 'mae amryw o wledydd wedi dileu eu lluoedd arfog erbyn hyn. Mae Cymru'n un ohonyn nhw. "Y gweldydd pasiffistaidd" y gelwir ni... Ond mae'r ysfa filwrol yn anodd iawn ei lladd. Ac rydych chi'n edrych nawr ar fintai o Gymdeithas Filwrol Cymru.'
'Dydyn nhw ddim yn perthyn i'r Llywodraeth?'
'Nac ydyn. Cymdeithas wirfoddol ydyw. Gan ein bod ni'n wlad rydd, dyw'r Llywodraeth ddim yn ei gwahardd hi. Ond dyw hi'n rhoi dim at ei chynnal...'
'Ond fe allai ddymchwel y Llywodraeth,' meddwn i.

A dyna sy ryfedd gen i. Gan roi o'r neilltu a ydw i o blaid rhyfela neu beidio, beth sydd mor wael am fod yna rywbeth a all dymchwel Llywodraeth? Os nad oes y fath beth, yna mae'r ffordd yn agored i Lywodraeth fod mor ddraconaidd ac unbennaidd ag y myn. Hyd yn oed nawr, does dim modd ddangos diffyg cefnogaeth i Lywodraeth heb fod y Llywodraeth hynny'n galw etholiad cyffredinol. Yn ei amser mewn grym, mae 'Llafur Newydd' wedi pasio sawl deddf i rwystro pobl rhag dangos eu bod nhw'n anghytuno efo'r llywodraeth; ac er gymaint eu siarad, mae'n bur annhebyg y medrwn ni ddibynnu ar unrhyw blaid arall i'w dileu. Unig rheswm eu bodolaeth yw i ennyn grym ac arian, ond yn bennaf grym, i nhw'u hunain.
Llywodraeth yw'r broblem - sut felly y medr Llywodraeth fod hefyd yn ateb?

Monday, 16 July 2007

Hi Oedd fy Ffrind

Rwy newydd orffen darllen Hi yw fy Ffrind a Hi oedd fy Ffrind yn yr wythnos ddiwethaf. Gorffennais i'r olaf o fewn diwrnod, roedd hi mor dda. Rwy'n eitha ffan o Bethan Gwanas (mae'i blog hi yma, gyda llaw) ers imi'i chwrdd â hi pan ddaeth hi i siarad efo'r Gymdeithas Gymraeg slawer dydd. Roedden nhw lawer gwell na Gwrach y Gwyllt, er imi hoffi hwnnw'n fawr iawn hefyd. Y broblem fwyaf yn y llyfr yna oedd ei fod yn amlwg fod Bethan Gwanas wedi gwneud peth affliw o waith ymchwil am wrachod - ond ei bod hi wedi teimlo bod raid iddi'i ddefnyddio i gyd, felly cawson ni ryw chwech o dudalennau yng nghanol y llyfr yn defnyddio'r ymchwil, nad oedd yn ffitio o gwbl. Teimlo braidd fel plot dump oedd y rhan yna, ac yn anffodus mi dorrodd ar naws y nofel imi. Biti garw, roedd y gweddill yn dda tu hwnt.

Doedd dim o'r fath yma yn stori Nia a Non, y ddwy ffrind. Amlwg fod BG wedi byw llawer o'r sefyllfaoedd, un ai ei hun neu thrwy'i ffrindiau, ac roedden nhw'n lyfrau gwych am ddarlunio bywyd ysgol a choleg, a sut brofiadau oedd i ferched gyda'u ffrindiau, eu cariadon, a'u gelynion yn ogystal.

Ac am ddiwedd i'r ddau nofel!! Rwy'n lled-obeithio wneiff yr awdur ysgrifennu un arall, inni gael gwybod be ddigwyddodd...

Wednesday, 11 July 2007

Lembo Öpik



Pam, Duw, pam?

Tuesday, 10 July 2007

I be mae egwyddorion dda?

Tybed. Ddaeth Cylchgrawn Barn drwy'r drws ddoe, ac rwy wedi bod yn pician drwyddi yn ystod amser te ac amser cinio heddiw. Er i'r cylchgrawn fynd i'r wasg cyn i Blaid Cymry a Llafur "Newydd" neidio i mewn i'r gwely efo'i gilydd, mae 'na gryn dipyn o gnoi cil ar y sefyllfa yn y Bae.

Hyd yn hyn, yr hyn sydd wedi 'nharo i fwyaf yw colofn y golygydd, Dyfrig Jones. Â ati ynddo i ddadlau fod yn rhaid i wleidyddion o Genedlaetholwyr rhoi yr agwedd hynny o'u hunaniaeth ar y blaen i bopeth arall - hynny yw, i fod yn fodlon i hepgor eu hegwyddorion eraill er mwyn rhoi'r wlad yn gyntaf (rwy'n symleiddio braidd, ond yn y bôn, dyna ydy'r peth).

Wn i ddim yn iawn be i feddwl am hyn, a bod yn onest. Ar y naill law, mae gan yr Olygydd bwynt da - mae'n bechod gweld pobl yn glynu'n styfnig at un safle er ei fwyn ei hun, pan fyddai cyfaddawdu yn gwneud mwy o les i'r etholwyr, a/neu'r wlad yn gyfangwbl. Yn sicr, dyna sut fydd Ieuan Wyn Jones a Rhodri Morgan yn ei sbinio hi i ni ac i'w dilynwyr. Ond pam, dywed, cyfaddawdu efo Llafur, ond gwrthod yn llwyr gyfaddawdu efo'r Torïaid? Ym Mhrydain drwyddi draw, dydyn nhw fawr wahanol - gweler erthygl gwych y Dr. Sean Gabb ar The Quisling Right - ac yng Nghymru, dichon eu bod hyd yn oed yn well na Llafur. 'Dydyn nhw ddim wedi treulio canrif yn cymeryd cefnogaeth y Cymry'n ganiataol, ac yn ein difrïo oherwydd hyn. Ers y Refferendwm, ac yn enwedig ers gael gwared â Rod Richard, mae'r Blaid Dorïaidd wedi newid llawer.

Sgwn i pam, felly, mae'r "Giang o Bedair" yn cadw'n dawel y tro hwn? Rown i'n arfer credu, yn fy mhlentyndod naïf, fod gwleidyddion yn gwneud eu gwaith er mwyn gwella bywyd i bawb. Erbyn hyn, mae'n disgwyl i mi eu bod â mwy o ddiddordeb mewn pwer, statws, ac arian nac egwyddorion.

Plaid Cymru a Llafur yn ymdrybaeddu mewn trythyllwch, yn rhannu gwely ar ein harian ni.

Prydeindod, problem Lloegr

Prydeindod - problem Lloegr
Mae'n sicr y bydd hyd yn oed teitl yr ysgrif yma yn codi gwrychyn nifer, and yn swnio fel petai'n pechu ar gof yr athro
JR Jones, ac yn hollol chwith i ysgrifau treiddgar Dafydd Glyn Jones ar y pwnc. *Hoffwn iddo fod, yn hytrach, yn glod iddynt hwy, yn ogystal a'm athrawes hanes yn yr ysgol, Miss Ann Hughes, a wnaeth yn fwy na neb bron fy nysgu sut i feddwl. Rhaid, meddai, i hanesydd da ddeall ddwy ochr pob dadl, pa mor anodd bynnag ydyw. Ac yn yr ysbryd yma, hoffwn fynd i'r afael â'r loes a wnaeth ideoleg Prydeindod i Loegr.

Ie, i Loegr. Swnia hyn fel paradocs llwyr, o gofio taw Prydain yw Lloegr, a Phrydeindod yw Seisnigrwydd, ys dywed Gwynfor Evans. Er cymaint gwirionedd y gosodiadau, eto camleolir craidd y broblem. Deillia hyn o hen arfer y Cymry i feddwl am y Loegr Brydeinllyd fel un endid, lle, mewn gwirionedd, dau ydyw - Gwladwriaeth, a Phobl. Ac nid un Pobl ychwaith, ond nifer a saernïwyd yn genedl mewn modd llawn mor dreisgar ag y digwyddodd i ni'r Cymru. Collwyd ei harwyddocâd oherwydd i'r Sais fewnoli'r undod rhwng Pobl a'u Gwladwriaeth i raddau sydd o bosib hyd yn oed yn fwy helaeth na'r Cymry.

Ni ddaw'r 'llywodraeth ganolog' o ganol Lloegr ei hun, ond o ganol un rhanbarth yn unig. Gwelwn, yn y strach sydd yn parhau i ddilyn symudiad arfaethedig y BBC i Fanceinion, pa mor bell ydyw o Lundain - pellter sy'n fwy na'r milltiroedd daearyddol sy'n eu gwahanu. Collwyd sawl tafodiaeth hynod ddiddorol oherwydd gormes a thra-arglwyddiaeth (hegemoni) y "Chancery English", y "Standard English", a'r RP. Mor gryf ydoedd y rhain nes i goncwerwyr y Sais, y Ffrancwyr Normanaidd, yn y diwedd hepgor eu Ffrengig ac arfer yr iaith fain.

Bu bri mawr yn ddiweddar ar astudiaethau rhanbarthol, Regional Studies, a hunaniaethau rhanbarthol - ond gwae neb heddiw a ddisgrifir Cymru, yr Alban a'r Iwerddon fel rhanbarthau megis cynt. Ond y mae’r Athro Dafydd G. Jones yn ein hatgoffa taw gwledydd oedd o fewn yr hen Gymru, Cymru'r Tywysogion, ac mae'n werth cofio taw felly y bu yn Lloegr hefyd. Yn weddol hwyr, yn hanesyddol, y daeth Lloegr yn endid unedig, lle cynt y bu cryn anghytundeb a rhyfela rhwng Wessex, Mercia, Northumberland a gwledydd bychan eraill. Mater o gyflyriad amser ydyw teyrnas unedig Lloegr. Eto i gyd, "ateb" y gwleidyddion Prydeinig i "broblem" datganoli, fel y mae'n effeithio ar y Sais, ydyw cynnig Regional Assemblies bondigrybwyll iddynt, ac fe'u gwrthodwyd yn glir gan yr etholaethau yma. Sarhad yw cynnig o'r fath, i Loegr ac i Gymru. Tranc ein Cenedligrwydd byddai derbyn cydraddoldeb fel Rhanbarth, yn hytrach na Phobl, yn ôl DGJ. Llai hawdd yw gweld y loes i'r Sais. Ai rhan o'r rheswm am gynddaredd y Sais - tuag at Gynulliadau rhanbarthol, yn ogystal â thuag at Gymru - yw eu bod wedi derbyn eu rhanbartholdeb, a'i ddarostwng i hunaniaeth Eingl-Brydeinig. Pam, eb y Sais, na all "ranbarthau" Cymru a'r Alban wneud yr un aberth? Wrth inni geisio ddangos dillad newydd Ymherawdwr Prydeindod, tynnwyd y llen oddi ar lygaid y Sais hefyd. Nid ydym yr un pobl â'r Sais, yr hyn a ddysgwyd iddo ac a dderbyniodd drwy'r oesoedd. Ond os nad ydyn ni yr un peth - nid yn Brydeinwyr, ac yn dilyn hynny, nid yn Saeson ychwaith - pwy ydyn nhw?

Does erioed cyffes mwy noeth wedi bod taw ideoleg yw Prydeindod na syniad newydd y Llywodraeth bresennol i'w
ddysgu i blant ysgol Lloegr. A sylwer taw i Loegr y perthyn y ddeddfwriaeth - y Saeson yw'r Prydeinwyr olaf, a nhw sydd i'w trawmateiddio fwyaf o golli gafael yn eu Prydeindod. Deffrowyd "cynddaredd eu cenedligrwydd", a rhaid i'r Llywodraeth ei dagu ar ei enedigaeth, rhag iddynt hwy eu hunain golli'r hyn sy bwysicach oll iddynt - Grym.

Ac yn hynny o beth, rhaid i raddau edrych ar Loegr a'i thrigolion fel cyd-ddioddefwyr yng ngormes ideoleg Prydeindod. Yn wir, mae'n bosib iddynt ddioddef yn waeth. Lle parhaodd ein hunaniaeth (mewn amryw ffurf, ac er gwaeth yn ogystal ag er gwell), fe draflyncwyd hunaniaeth y Sais mor gyfangwbl gan Brydeindod, fel o bosib nid ydyw'n bodoli fwyach. Mae'n sicr y gwelwn gynhyrfaeth nas gwelwyd o'r blaen wrth i'r gwirionedd ddod i’r wyneb, a'r hunaniaeth ddatgymalu.


Ôl-nodyn : cynigais i'r erthygl fer hon i'r cylchgrawn Barn, ond ni welsant hwy'n ffit i'm hateb o gwbl, hyd yn oed i'w wrthod.