Showing posts with label llyfrau. Show all posts
Showing posts with label llyfrau. Show all posts

Wednesday, 25 July 2007

Wythnos yng Nghymru Fydd

Rwy wrthi'n darllen llyfr Islwyn Ffowc Elis ar y foment, ac y mae yna amryw beth rhyfedd tu hwnt ynddi. Ar ddiwedd bennod 7, mae'r cymeriadau yn gweld band milwrol yng nghanol Caerdydd:
'Wel', meddai, 'mae amryw o wledydd wedi dileu eu lluoedd arfog erbyn hyn. Mae Cymru'n un ohonyn nhw. "Y gweldydd pasiffistaidd" y gelwir ni... Ond mae'r ysfa filwrol yn anodd iawn ei lladd. Ac rydych chi'n edrych nawr ar fintai o Gymdeithas Filwrol Cymru.'
'Dydyn nhw ddim yn perthyn i'r Llywodraeth?'
'Nac ydyn. Cymdeithas wirfoddol ydyw. Gan ein bod ni'n wlad rydd, dyw'r Llywodraeth ddim yn ei gwahardd hi. Ond dyw hi'n rhoi dim at ei chynnal...'
'Ond fe allai ddymchwel y Llywodraeth,' meddwn i.

A dyna sy ryfedd gen i. Gan roi o'r neilltu a ydw i o blaid rhyfela neu beidio, beth sydd mor wael am fod yna rywbeth a all dymchwel Llywodraeth? Os nad oes y fath beth, yna mae'r ffordd yn agored i Lywodraeth fod mor ddraconaidd ac unbennaidd ag y myn. Hyd yn oed nawr, does dim modd ddangos diffyg cefnogaeth i Lywodraeth heb fod y Llywodraeth hynny'n galw etholiad cyffredinol. Yn ei amser mewn grym, mae 'Llafur Newydd' wedi pasio sawl deddf i rwystro pobl rhag dangos eu bod nhw'n anghytuno efo'r llywodraeth; ac er gymaint eu siarad, mae'n bur annhebyg y medrwn ni ddibynnu ar unrhyw blaid arall i'w dileu. Unig rheswm eu bodolaeth yw i ennyn grym ac arian, ond yn bennaf grym, i nhw'u hunain.
Llywodraeth yw'r broblem - sut felly y medr Llywodraeth fod hefyd yn ateb?

Monday, 16 July 2007

Hi Oedd fy Ffrind

Rwy newydd orffen darllen Hi yw fy Ffrind a Hi oedd fy Ffrind yn yr wythnos ddiwethaf. Gorffennais i'r olaf o fewn diwrnod, roedd hi mor dda. Rwy'n eitha ffan o Bethan Gwanas (mae'i blog hi yma, gyda llaw) ers imi'i chwrdd รข hi pan ddaeth hi i siarad efo'r Gymdeithas Gymraeg slawer dydd. Roedden nhw lawer gwell na Gwrach y Gwyllt, er imi hoffi hwnnw'n fawr iawn hefyd. Y broblem fwyaf yn y llyfr yna oedd ei fod yn amlwg fod Bethan Gwanas wedi gwneud peth affliw o waith ymchwil am wrachod - ond ei bod hi wedi teimlo bod raid iddi'i ddefnyddio i gyd, felly cawson ni ryw chwech o dudalennau yng nghanol y llyfr yn defnyddio'r ymchwil, nad oedd yn ffitio o gwbl. Teimlo braidd fel plot dump oedd y rhan yna, ac yn anffodus mi dorrodd ar naws y nofel imi. Biti garw, roedd y gweddill yn dda tu hwnt.

Doedd dim o'r fath yma yn stori Nia a Non, y ddwy ffrind. Amlwg fod BG wedi byw llawer o'r sefyllfaoedd, un ai ei hun neu thrwy'i ffrindiau, ac roedden nhw'n lyfrau gwych am ddarlunio bywyd ysgol a choleg, a sut brofiadau oedd i ferched gyda'u ffrindiau, eu cariadon, a'u gelynion yn ogystal.

Ac am ddiwedd i'r ddau nofel!! Rwy'n lled-obeithio wneiff yr awdur ysgrifennu un arall, inni gael gwybod be ddigwyddodd...