Wednesday, 15 August 2007

Cymru Ugain : Ugain

'Roedd erthygl ar y BiBiEc heddiw yn sôn am fenter 'tanc meddwl' newydd, sef Wales 20:20. Tanc meddwl "democratic socialist " ydyw, meddent hwy (tybed beth mae'n nhw'n meddwl fod hynny'n golygu?), ac maent wedi cyhoeddi'u comisiwn cyntaf, sef dogfen Winning for Wales gan Huw Lewis AC.

Mae'n ddogfen difyr, rhaid dweud. Rwy'n cymeradwyo'i ddadansoddiad treiddgar o broblem fawr Llafur yng Nghymru, sef diffyg y blaid yn Llundain i'w drin fel unrhywbeth amgen na pharti rhanbarthol leol, megis rhanbarthau Lloegr.

Ond, ble mae'r Iaith? Dyw hi i'w gweld nunlle yn y ddogfen; ac mae bai mawr arni am hynny. Rhan enfawr o bechod Llafur, a rhan allweddol o'r broblem 'rhanbartholdeb' uchod y mae'r AC mor dreiddgar amdani, yw'r modd y diystyrir yr iaith gan y blaid. Cymraeg yw'r hyn sydd yn rhoi "dichonoldeb cenedl", chwedl JR Jones, i Gymru, ac yn ei rwystro hi rhag ddod yn ryw fath o West England bondigrybwyll. Bu Llafur am gydol ei hoes yn trin Cymru fel rhyw fath o gloddfa pleidleisiol saff, lle medrent ddibynnu ar y gri "we're all Labour here!" er mwyn ennill bri a grym ym mhalas Westminster, heb roi yn ôl fawr ddim yn nhermau gwahanrwydd y Cymry. Dyna lle mae raid newid er y gwell, neu rhanbarth heb iaith a heb wreiddyn y byddwn ni.

Ond, gyda hynny, pwy a wyr nad hynny oedd bwriad Llafur o'r cychwyn cyntaf? Onid ydyw pobl diwraidd yn haws eu rheoli?

Thursday, 2 August 2007

Am Cymru, gweler Lloegr...

Pwy sydd ar goll yn yr erthygl yma, tybed?
Proposals to fly the Union flag every day on government buildings are set not to apply to Scottish Executive sites. The government published the plans last week and they follow Gordon Brown raising the issue of celebrating Britishness in January... The spokesman said: "Jack Straw agreed there are different considerations in Scotland than there are in England.