Wednesday, 25 July 2007

Wythnos yng Nghymru Fydd

Rwy wrthi'n darllen llyfr Islwyn Ffowc Elis ar y foment, ac y mae yna amryw beth rhyfedd tu hwnt ynddi. Ar ddiwedd bennod 7, mae'r cymeriadau yn gweld band milwrol yng nghanol Caerdydd:
'Wel', meddai, 'mae amryw o wledydd wedi dileu eu lluoedd arfog erbyn hyn. Mae Cymru'n un ohonyn nhw. "Y gweldydd pasiffistaidd" y gelwir ni... Ond mae'r ysfa filwrol yn anodd iawn ei lladd. Ac rydych chi'n edrych nawr ar fintai o Gymdeithas Filwrol Cymru.'
'Dydyn nhw ddim yn perthyn i'r Llywodraeth?'
'Nac ydyn. Cymdeithas wirfoddol ydyw. Gan ein bod ni'n wlad rydd, dyw'r Llywodraeth ddim yn ei gwahardd hi. Ond dyw hi'n rhoi dim at ei chynnal...'
'Ond fe allai ddymchwel y Llywodraeth,' meddwn i.

A dyna sy ryfedd gen i. Gan roi o'r neilltu a ydw i o blaid rhyfela neu beidio, beth sydd mor wael am fod yna rywbeth a all dymchwel Llywodraeth? Os nad oes y fath beth, yna mae'r ffordd yn agored i Lywodraeth fod mor ddraconaidd ac unbennaidd ag y myn. Hyd yn oed nawr, does dim modd ddangos diffyg cefnogaeth i Lywodraeth heb fod y Llywodraeth hynny'n galw etholiad cyffredinol. Yn ei amser mewn grym, mae 'Llafur Newydd' wedi pasio sawl deddf i rwystro pobl rhag dangos eu bod nhw'n anghytuno efo'r llywodraeth; ac er gymaint eu siarad, mae'n bur annhebyg y medrwn ni ddibynnu ar unrhyw blaid arall i'w dileu. Unig rheswm eu bodolaeth yw i ennyn grym ac arian, ond yn bennaf grym, i nhw'u hunain.
Llywodraeth yw'r broblem - sut felly y medr Llywodraeth fod hefyd yn ateb?

No comments: