Prydeindod - problem Lloegr
Mae'n sicr y bydd hyd yn oed teitl yr ysgrif yma yn codi gwrychyn nifer, and yn swnio fel petai'n pechu ar gof yr athro JR Jones, ac yn hollol chwith i ysgrifau treiddgar Dafydd Glyn Jones ar y pwnc. *Hoffwn iddo fod, yn hytrach, yn glod iddynt hwy, yn ogystal a'm athrawes hanes yn yr ysgol, Miss Ann Hughes, a wnaeth yn fwy na neb bron fy nysgu sut i feddwl. Rhaid, meddai, i hanesydd da ddeall ddwy ochr pob dadl, pa mor anodd bynnag ydyw. Ac yn yr ysbryd yma, hoffwn fynd i'r afael â'r loes a wnaeth ideoleg Prydeindod i Loegr.
Ie, i Loegr. Swnia hyn fel paradocs llwyr, o gofio taw Prydain yw Lloegr, a Phrydeindod yw Seisnigrwydd, ys dywed Gwynfor Evans. Er cymaint gwirionedd y gosodiadau, eto camleolir craidd y broblem. Deillia hyn o hen arfer y Cymry i feddwl am y Loegr Brydeinllyd fel un endid, lle, mewn gwirionedd, dau ydyw - Gwladwriaeth, a Phobl. Ac nid un Pobl ychwaith, ond nifer a saernïwyd yn genedl mewn modd llawn mor dreisgar ag y digwyddodd i ni'r Cymru. Collwyd ei harwyddocâd oherwydd i'r Sais fewnoli'r undod rhwng Pobl a'u Gwladwriaeth i raddau sydd o bosib hyd yn oed yn fwy helaeth na'r Cymry.
Ni ddaw'r 'llywodraeth ganolog' o ganol Lloegr ei hun, ond o ganol un rhanbarth yn unig. Gwelwn, yn y strach sydd yn parhau i ddilyn symudiad arfaethedig y BBC i Fanceinion, pa mor bell ydyw o Lundain - pellter sy'n fwy na'r milltiroedd daearyddol sy'n eu gwahanu. Collwyd sawl tafodiaeth hynod ddiddorol oherwydd gormes a thra-arglwyddiaeth (hegemoni) y "Chancery English", y "Standard English", a'r RP. Mor gryf ydoedd y rhain nes i goncwerwyr y Sais, y Ffrancwyr Normanaidd, yn y diwedd hepgor eu Ffrengig ac arfer yr iaith fain.
Bu bri mawr yn ddiweddar ar astudiaethau rhanbarthol, Regional Studies, a hunaniaethau rhanbarthol - ond gwae neb heddiw a ddisgrifir Cymru, yr Alban a'r Iwerddon fel rhanbarthau megis cynt. Ond y mae’r Athro Dafydd G. Jones yn ein hatgoffa taw gwledydd oedd o fewn yr hen Gymru, Cymru'r Tywysogion, ac mae'n werth cofio taw felly y bu yn Lloegr hefyd. Yn weddol hwyr, yn hanesyddol, y daeth Lloegr yn endid unedig, lle cynt y bu cryn anghytundeb a rhyfela rhwng Wessex, Mercia, Northumberland a gwledydd bychan eraill. Mater o gyflyriad amser ydyw teyrnas unedig Lloegr. Eto i gyd, "ateb" y gwleidyddion Prydeinig i "broblem" datganoli, fel y mae'n effeithio ar y Sais, ydyw cynnig Regional Assemblies bondigrybwyll iddynt, ac fe'u gwrthodwyd yn glir gan yr etholaethau yma. Sarhad yw cynnig o'r fath, i Loegr ac i Gymru. Tranc ein Cenedligrwydd byddai derbyn cydraddoldeb fel Rhanbarth, yn hytrach na Phobl, yn ôl DGJ. Llai hawdd yw gweld y loes i'r Sais. Ai rhan o'r rheswm am gynddaredd y Sais - tuag at Gynulliadau rhanbarthol, yn ogystal â thuag at Gymru - yw eu bod wedi derbyn eu rhanbartholdeb, a'i ddarostwng i hunaniaeth Eingl-Brydeinig. Pam, eb y Sais, na all "ranbarthau" Cymru a'r Alban wneud yr un aberth? Wrth inni geisio ddangos dillad newydd Ymherawdwr Prydeindod, tynnwyd y llen oddi ar lygaid y Sais hefyd. Nid ydym yr un pobl â'r Sais, yr hyn a ddysgwyd iddo ac a dderbyniodd drwy'r oesoedd. Ond os nad ydyn ni yr un peth - nid yn Brydeinwyr, ac yn dilyn hynny, nid yn Saeson ychwaith - pwy ydyn nhw?
Does erioed cyffes mwy noeth wedi bod taw ideoleg yw Prydeindod na syniad newydd y Llywodraeth bresennol i'w ddysgu i blant ysgol Lloegr. A sylwer taw i Loegr y perthyn y ddeddfwriaeth - y Saeson yw'r Prydeinwyr olaf, a nhw sydd i'w trawmateiddio fwyaf o golli gafael yn eu Prydeindod. Deffrowyd "cynddaredd eu cenedligrwydd", a rhaid i'r Llywodraeth ei dagu ar ei enedigaeth, rhag iddynt hwy eu hunain golli'r hyn sy bwysicach oll iddynt - Grym.
Ac yn hynny o beth, rhaid i raddau edrych ar Loegr a'i thrigolion fel cyd-ddioddefwyr yng ngormes ideoleg Prydeindod. Yn wir, mae'n bosib iddynt ddioddef yn waeth. Lle parhaodd ein hunaniaeth (mewn amryw ffurf, ac er gwaeth yn ogystal ag er gwell), fe draflyncwyd hunaniaeth y Sais mor gyfangwbl gan Brydeindod, fel o bosib nid ydyw'n bodoli fwyach. Mae'n sicr y gwelwn gynhyrfaeth nas gwelwyd o'r blaen wrth i'r gwirionedd ddod i’r wyneb, a'r hunaniaeth ddatgymalu.
Ôl-nodyn : cynigais i'r erthygl fer hon i'r cylchgrawn Barn, ond ni welsant hwy'n ffit i'm hateb o gwbl, hyd yn oed i'w wrthod.
Tuesday, 10 July 2007
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment