Monday, 19 May 2008

Rhagrith

Bu siarad efo rhywun am ragrith gynne (wedi symbylu gan yr erthygl yma yn sôn am agwedd Orwell tuag at rhagrith) wedi f'atgoffa fy mod i wedi cysidro postio am newid "calon" Plaid yn y Gynulliad tuag at gefnogi papur newydd Y Byd.

Gan i'r Blaid addo'i gefnogi yn ei maniffesto diwethaf, roedd nifer fawr o erthyglau yn Nghylchgrawn Barn yn siomedig tu hwnt am i Rodri Glyn Thomas a'r gweddill troi ar yr holl gynllun. Siawns fod pawb yn meddwl fod eu plaid nhw yn well na brefu am "wleidyddiaeth bragmataidd" pan yn newid eu cân y munud y cawn nhw eu pigau yn nghafn Grym. Mae hynny'n disgwyl yn freuddwyd gwrach i bob un ohonom ni'r etholwyr, wedi i'r llysoedd ddeddfu nad yw addewidion maniffesto yn gaeth i ddisgwyliau cyfreithlon. Mwy yma.

Hynny yw, fedren nhw ddweud be fynnen nhw er mwyn dwyn perswâd arnom ni i bleidleisio drostyn nhw. A mwya ffwl ni os y'n ni'n disgwyl iddyn nhw cadw'u geiriau, y cachwyr.

No comments: