Rwy newydd orffen darllen Hi yw fy Ffrind a Hi oedd fy Ffrind yn yr wythnos ddiwethaf. Gorffennais i'r olaf o fewn diwrnod, roedd hi mor dda. Rwy'n eitha ffan o Bethan Gwanas (mae'i blog hi yma, gyda llaw) ers imi'i chwrdd â hi pan ddaeth hi i siarad efo'r Gymdeithas Gymraeg slawer dydd. Roedden nhw lawer gwell na Gwrach y Gwyllt, er imi hoffi hwnnw'n fawr iawn hefyd. Y broblem fwyaf yn y llyfr yna oedd ei fod yn amlwg fod Bethan Gwanas wedi gwneud peth affliw o waith ymchwil am wrachod - ond ei bod hi wedi teimlo bod raid iddi'i ddefnyddio i gyd, felly cawson ni ryw chwech o dudalennau yng nghanol y llyfr yn defnyddio'r ymchwil, nad oedd yn ffitio o gwbl. Teimlo braidd fel plot dump oedd y rhan yna, ac yn anffodus mi dorrodd ar naws y nofel imi. Biti garw, roedd y gweddill yn dda tu hwnt.
Doedd dim o'r fath yma yn stori Nia a Non, y ddwy ffrind. Amlwg fod BG wedi byw llawer o'r sefyllfaoedd, un ai ei hun neu thrwy'i ffrindiau, ac roedden nhw'n lyfrau gwych am ddarlunio bywyd ysgol a choleg, a sut brofiadau oedd i ferched gyda'u ffrindiau, eu cariadon, a'u gelynion yn ogystal.
Ac am ddiwedd i'r ddau nofel!! Rwy'n lled-obeithio wneiff yr awdur ysgrifennu un arall, inni gael gwybod be ddigwyddodd...
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment