Tuesday, 10 July 2007

I be mae egwyddorion dda?

Tybed. Ddaeth Cylchgrawn Barn drwy'r drws ddoe, ac rwy wedi bod yn pician drwyddi yn ystod amser te ac amser cinio heddiw. Er i'r cylchgrawn fynd i'r wasg cyn i Blaid Cymry a Llafur "Newydd" neidio i mewn i'r gwely efo'i gilydd, mae 'na gryn dipyn o gnoi cil ar y sefyllfa yn y Bae.

Hyd yn hyn, yr hyn sydd wedi 'nharo i fwyaf yw colofn y golygydd, Dyfrig Jones. Â ati ynddo i ddadlau fod yn rhaid i wleidyddion o Genedlaetholwyr rhoi yr agwedd hynny o'u hunaniaeth ar y blaen i bopeth arall - hynny yw, i fod yn fodlon i hepgor eu hegwyddorion eraill er mwyn rhoi'r wlad yn gyntaf (rwy'n symleiddio braidd, ond yn y bôn, dyna ydy'r peth).

Wn i ddim yn iawn be i feddwl am hyn, a bod yn onest. Ar y naill law, mae gan yr Olygydd bwynt da - mae'n bechod gweld pobl yn glynu'n styfnig at un safle er ei fwyn ei hun, pan fyddai cyfaddawdu yn gwneud mwy o les i'r etholwyr, a/neu'r wlad yn gyfangwbl. Yn sicr, dyna sut fydd Ieuan Wyn Jones a Rhodri Morgan yn ei sbinio hi i ni ac i'w dilynwyr. Ond pam, dywed, cyfaddawdu efo Llafur, ond gwrthod yn llwyr gyfaddawdu efo'r Torïaid? Ym Mhrydain drwyddi draw, dydyn nhw fawr wahanol - gweler erthygl gwych y Dr. Sean Gabb ar The Quisling Right - ac yng Nghymru, dichon eu bod hyd yn oed yn well na Llafur. 'Dydyn nhw ddim wedi treulio canrif yn cymeryd cefnogaeth y Cymry'n ganiataol, ac yn ein difrïo oherwydd hyn. Ers y Refferendwm, ac yn enwedig ers gael gwared â Rod Richard, mae'r Blaid Dorïaidd wedi newid llawer.

Sgwn i pam, felly, mae'r "Giang o Bedair" yn cadw'n dawel y tro hwn? Rown i'n arfer credu, yn fy mhlentyndod naïf, fod gwleidyddion yn gwneud eu gwaith er mwyn gwella bywyd i bawb. Erbyn hyn, mae'n disgwyl i mi eu bod â mwy o ddiddordeb mewn pwer, statws, ac arian nac egwyddorion.

Plaid Cymru a Llafur yn ymdrybaeddu mewn trythyllwch, yn rhannu gwely ar ein harian ni.

No comments: